Welsh Choir Cym Rhondda (Bread of Heaven) & Mae Hen Wlad Fy Nhadau Lyrics

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthddrych teilwng o fy mryd
Er o'r braidd 'rwy'n Ei adnabod
Ef uwchlaw gwrthrychau'r byd
Henffych fore!
Caf ei weled fel y mae.
Caf ei weled fel y mae.

Rhosyn Saron yw Ei enw
Gwyn a gwridog, hardd Ei bryd!
Ar ddeng mil y mae'n rhagori
O wrthddrychau penna'r byd
Ffrind pechadur!
Dyma'r llywydd ar y mor.
Dyma'r llywydd ar y mor.

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,
Tros ryddid gollasant eu gwaed.

Chorus:
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r heniaith barhau.

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd;
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i fi.

Chorus

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.

Chorus

Beth sydd imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio 'r wyf nad yw eu cwmni
I'w gymharu a'm Iesu Mawr.
O! am aros
Yn Ei gariad ddyddiau f'oes.
Yn Ei gariad ddyddiau f'oes.

See also:

57
57.52
Pedrito Fernandez Las Chamaquitas Lyrics
G. Love and Special Sauce Take You There Lyrics