CalonLan Lyrics

Calon Lan
Nid wy'n gofyn bywyd moethus
Aur y byd na'i berlau mân
Gofyn rwyf am calon hapus
Calon onest, calon lân.
Cytgan:
Calon lân yn llawn daioni
Tecach yw na'r lili dlos
Does ond calon lân all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.

Pe dymunwn olud bydol
Chwim adenydd iddo sydd
Golud calon lân rinweddol
Yn dwyn bythol elw fydd.

Cytgan:

Hwyr a bore fy nymuniad
Esgyn ar adenydd cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad
Roddi imi galon lân.

Cytgan:

See also:

98
98.31
Kancelaria Blisko Tak Lyrics
The Quill Slave/Master Lyrics